BlodwenWILLIAMSWILLIAMS - Dymuna Blodwen, Ian a Judith ddiolch o galon i'r teulu, cymdogion a ffrindiau, am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth annisgwyl o golli priod, tad a thaid arbennig sef y diweddar Glyn Williams, Hafod y Grug, Pontrhydybont. Diolch i bawb am eu rhoddion hael er cof am Glyn tuag at Feddygfa Fictoria, Caergybi ac i feddygon a nyrsys y feddygfa honno am eu gofal ar hyd y blynyddoedd; i'r Parchedig Neil Ridings am y gwasanaeth hyfryd a phriodol iawn; i'r organyddes, Mrs Eilir Williams ac i'r ymgymerwr, Mr Gareth Owen, Preswylfa, Y Fali am y trefniadau gofalus a thrylwyr. Bu'r cyfan o gymorth ac o gysur mawr i'r teulu.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Blodwen